Friday 27 April 2012

Gwyliau Capel Penfro '12

Dydd Mercher 18/ 04 - Fe arhosais yng Nghaerfyrddin am y noson gyda Mair, un o fy ffrindiau gorau. Ar ôl i mi gyrraedd, cawsom ni baned a chyfle i ddechrau dal lan gyda'n gilydd. Yn y nos fe aethom ni i Toby Carvery gyda chwpwl o ferched eraill. Roedd e'n dawel iawn yno i gymharu ag un Caerdydd! 
Pan ddaeth chwiorydd Miriam i'w phigo hi lan, daethon nhw ag un o'r oen a anwyd dim ond diwrnod yn gynt! Roedd y peth bach yn cysgu'n drwm.
Fe siaradodd y ddwy ohonom ni tan oriau man y bore, fel arfer.


Dydd Iau 19/ 04- Dechreuais i, Miriam a Gwenllian ar y daith i Benfro pnawn dydd Iau, mwynheais i'r cwmni'n fawr, wrth i ni sgwrsio, a gwrando ar amryw o gerddoriaeth.
Roedd yn braf cyrraedd yr 'Haven Christian Centre' (sy'n wynebu'r castell) gyda digonedd o amser i ddechrau dad-bacio ag i ymlacio cyn cael bwyd. Cwis oedd adloniant y noson gyntaf, dan arweiniad Y Jamsiaid. Enw ein tîm oedd StarWars - penderfyniad Rhodri, gan nad oedd syniadau gwell gyda neb. Roedd nifer o rowndiau gwahanol, fy hoff un i oedd yr un adnabod hen luniau, y peth mwyaf doniol oedd bod Dad wedi methu hyd yn oed adnabod llun o'i fab ei hun! Ein tim ni ddaeth i'r brig!
Gan orffen y noson 'ar ôl oriau' gyda chriw pobl ifanc yn gwylio Flight of the Concords.

Dydd Gwener 20/ 04- Bore cynnar oedd hi, (am wyliau) dihunais am 7.30yb i gael brecwast o uwd, a crossants. Hyfryd iawn, yna cyfarfod gyda phawb. Trafodwyd 'Gweddi'r Arglwydd', gan edrych ar bwysigrwydd y geiriau sy'n cael eu cynnwys yn y weddi, ac fel sail gadarn i'n gweddïau ni. Yna roedd cyfle i rannu wrth i ni gael amser o weddi mewn grwpiau bach. Teimlais ei bod hi'n gyfle i fyfyrio ar rywbeth sy'n cael ei esgeuluso fel traddodiad, a phrofais fendith wrth gael fy atgoffa o air perffaith Dduw.

Y pnawn hwnnw fe es i, Miriam a Gwenllian am dro i gaffi cyfagos, ar bwys yr afon i gael cinio. Fe gyrhaeddon ni nol mewn pryd i fynd lawr i draeth Ongl (!!!!)(Angle) gyda phawb arall. Yn anffodus roedd y tywydd braidd yn wyntog, felly braidd yn wyntog i fwynhau eistedd. Doedd dim amdani ond chware gem o Gwb, i gynhesu! Ffeindiwyd ardal gysgodol rownd y gornel, a dyna le'r oedd y mamau yn eistedd wrth wylio'r plant yn joio padlo yn y dŵr rhewllyd. Yna dychwelyd i Hafen. Wrth gwrs rhaid dweud, roedd caserol selsig Anti Catrin unwaith eto yn wych. 
Cwis Wncwl Gwydion oedd yr ail noson. Enw ein grŵp oedd RhodGruff. Braf oedd gweld y plant ymuno yn y cwis, ac yn mwynhau yng nghwmni'r oedolion.

Dydd Sadwrn - Ar ôl noson hwyr unwaith eto, roedd hi'n anodd codi'r bore olaf. Ond yn aros i ni roedd bacon butties, a melon i frecwast.
Cyn i ni ffarwelio a Phenfro, roedd angen pacio, a thacluso. Ond cyn i ni adael, fe danganfuwyd bod yna ystafell dawel gudd rownd y gornel i'n stafell ni! - Bydd rhaid cofio hynny ar gyfer y flwyddyn nesaf!

Mathew 6:9 - 'Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw; deled dy deyrnass; gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef.'





No comments:

Post a Comment