Friday 13 April 2012

Llanw '12 - Cei Newydd

Fe dreuliais i'r wythnos diwethaf yng Nghei Newydd mewn cynhadledd i Gristnogion o bob oedran yng Nghymru. Thema yr anerchiadau boreuol oedd Calondid, ac roedden nhwn llawn dysgeidiaeth gadarnhaol i gael myfyrio ar fy mywyd ysbrydol personol.




Roeddwn i'n aros mewn carafan ym mharc Haven, gyda 6 o ferched arall roeddwn i'n nabod ymlaen llaw. Ar ol yr holl drefnu, a pharatoi ers misoedd, roedd yn wythnos hyfryd.Enw ein carafan oedd Dyfed 13, roedd y garafan ei hun yn neis, gan bod digon o le i bawb eistedd a chymdeithasu. Carafan i gysgu 8 oedd hi, gyda 3 ystafell a soffas digon cyforddus. Cyfrannom ni i gyd gyda bwyd a'r essentials. Yfwyd llawer o baneidiau gennym ni, ein ymwelwyr niferus, a gan ein cymdogion (criw o fois...)Roedd cwmni fy nghyd saint yn fendithiol, mae'n berthynas sy'n un hollol unigryw!Bu'r tywydd yn braf ond braidd yn oer ar adegau, er gweithaf yr arolygon, diolch byth. Roedd hi'n wythnos i'w chofio gyda chwmni hyfryd, golygfa hynod, a phwyntiau heriol, ac yn bwysicach, roedd yn galonogol.


'Dyma beth ydy cariad: dim y ffaith ein bod ni'n caru Duw, ond y ffaith ei fod e wedi'n caru ni ac anfon ei Fab yn aberth oedd yn gwneud iawn am ein pechodau ni.' 1 Ioan 4.10


No comments:

Post a Comment